Parêd 2020 – Amserlen, Llwybr newydd, Trefn y Seremoni
Cynhelir Parêd Gŵyl Dewi 2020 ar ddydd Sadwrn 29 Chwefror. Y Tywysydd eleni fydd Meirion Appleton, cyn-hyfforddwr tîm pêl-droed Aberystwyth a chefnogwr i’r Gymraeg a phêl-droed yn yr ardal.
Sadwrn
Sgwâr Owain Glyndwr
10.30am – Cerddoriaeth fyw ar y stryd
Tafarn y Llew Du – AM DDIM / FREE
2.00pm – Sesiwn Werin – dewch â’ch offerynnau, neu, jyst dewch!
4.00pm – Pibau Taw
Dydd Sul
10.00am – Oedfa Dewi Sant yn y Morlan – croeso i bawb
Llwybr y Parêd – newid gwych!
Diolch i Heddlu Dyfed-Powys a Chyngor Sir Ceredigion am gytuno i ni newid y llwybr. Bydd y llwybr newydd yn symlach ac yn llawer mwy trawiadol!:
Dechrau Cloc y Dre => Stryd Fawr => Sgwâr Owain Glyndwr => Ffordd y Môr => Llys-y-Brenin
Trefn y Seremoni
Croeso – Geraint Lloyd, BBC Radio Cymru
Bendith – Eifion Roberts, Capel y Morfa, Aberystwyth
Maer Aberystwyth – Cyngh. Mari Turner
Côr Meibion Aberystwyth, Meibion y Mynydd, aelodau o gorau eraill y dre, Band Arian Aberystwyth
Y Tywysydd – Meirion Appelton
Samba Agogo
Llŵ y Parêd
Yr Anthem
Gosgordd y Tywysydd: , Ysgol Penweddig
a, Ysgol Penglais.
Ffon y Tywysydd: Hywel Evans, Capel Dewi
Stiwardio: Cylch Cinio Aberystwyth ac eraill
***
2018 – dydd Sadwrn 3 Mawrth
Hwpwch e yn eich ffôn lôn a bodiwch e i’ch ffrindiau ar Facebook! Dydd Sadwrn 3 Mawrth yw dyddiad Parêd 2018.
Bydd yn dechrau, fel arfer, o Gloc y Dre a bennu ar Llys-y-brenin. Bydd bandiau’n gorymdeithio ac mae croeso i chi ymuno hefyd. Bydd hefyd miwsig am ddim ar Sgwâr Owain Glyndwr yn y bore, miwsig am ddim yn y Llew Du wedi’r Parêd a bydd Cered yn trefnu llond gwlad o bethach a stwff i’w wneud i’r plantos a’r teulu yn y Bandstand trwy gydol y dydd. Ac mae popeth AM DDIM!
Tywysydd Parêd 2018 fydd Ned Thomas, yr awdur, meddyliwr a gweithredwr.
Cadwch lygad ar y wefan ‘ma, ein Facebook a Twitter a hefyd gwefan Cered am y diweddaraf. Down â hwyl i Gŵyl Dewi – bydd yn hwyl!
***
Parêd 2017 – torri tir newydd
Cynhelir Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth am 1.00pm dydd Sadwrn 4 Mawrth 2017.
Dyma fydd y digwyddiad fwyaf hyd yma. Bydd yn dilyn yr un llwybr â phob Parêd blaenorol.
Pibau Tawe, bagad newydd Geraint Roberts o ardal Cwm Tawe fydd yn arwain yr orymdaith. Y diddanwr a’r codwr arian elusen poblogaidd, Glan Davies, fydd y Tywysydd a bydd Band Arian y dref yn gorymdeithio. Bydd Parêd 2017 yn torri tir newydd wrth wahodd Band Samba Agogo yn rhan o’r orymdaith.
Arweinydd y Seremoni fydd cyflwynydd BBC Radio Cymru, Geraint Lloyd, a’r Parch. Derrick Adams o Eglwys Efengylaidd Aberystwyth fydd yn traddodi’r fendith. Bydd Maer y Dref, y Cyngh. Brendan Somers yn cyflwyno’r Tywysydd. Ceir hefyd perfformiad arbennig gan y pedwarawd newydd lleol, Bois y Fro, sy’n rhyddhau CD newydd y mis yma.
Yn ystod y bore bydd cerddoriaeth am ddim ar Sgwâr Owain Glyndwr – gan dechrau am 10.20 gyda chôr Meibion y Mynydd, yna Mari Matthias ac yna am 12.00, Bois y Fro. Bydd hefyd llu o ddigwyddiadau i blant yn y Bandstand newydd drwy gydol y bore wedi eu trefu gan Cered, Menter Iaith Ceredigion – ewch draw!
Wedi’r Parêd bydd gig am ddim yn nhafarn y Llew Du ar Stryd y Bont am 3.30pm gan criw Pibau Tawe ac yna o rhyw 4.30pm ymlaen bydd sesiwn werin yno hefyd – dewch draw i ymuno yn yr hwyr!
Ar fore Sul bydd oedfa arbennig yng Nghanolfan y Morlan.
Dim ond braslun yw hyn. Cadwch lygad ar y wefan yma a dilynwch ni ar Twitter @GwylDewiAber ac ar Facebook am y diweddaraf. Gall digwyddiadau newid!
Mae’n amser dathlu ein Cymreictod a’n hiaith!
Diolch i’n noddwyr: Cronfa Loteri Fawr; Cyngor Tref Aberystwyth a’n partner Cered
**
Parêd 2016 – y fwyaf eto!
Cynhelir Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth am 1.00pm dydd Sadwrn 5 Mawrth 2016.
Dyma fydd y digwyddiad fwyaf hyd yma. Bydd yn dilyn yr un llwybr â phob Parêd blaenorol.
Gwilym Bowen Rhys fydd y pibydd fydd yn arwain yr orymdaith. Yr artist Mary Lloyd Jones fydd y Tywysydd a bydd aelodau corau Aberystwyth yn canu wrth gerdded i gyfeiliant Band Arian y dref. Bydd Band Drwm Cambria yn ail-ymddangos am y tro cyntaf ers 2013.
Arweinydd y Seremoni fydd cyflwynydd BBC Radio Cymru, Geraint Lloyd, a Lyn Lewis Dafis fydd yn traddodi’r fendith. Ceir hefyd perfformiad arbennig gan Mr Phormula.
Yn ystod y bore bydd y telynor Carwyn Tywyn yn canu ar Sgwâr Owain Glyndwr ac yna yn Caffe MGs. Bydd hefyd llu o ddigwyddiadau i blant yn yr Hen Goleg drwy gydol y bore wedi eu trefu gan Cered, Menter Iaith Ceredigion.
Wedi’r Parêd bydd gig am ddim yn nhafarn y Llew Du ar Stryd y Bont gan Gwilym Bowen Rhys ac yna am 4.00pm bydd sesiwn werin yno hefyd – dewch draw i ymuno yn yr hwyr!
Ar fore Sul bydd oedfa arbennig yng Nghanolfan y Morlan.
Dim ond braslun yw hyn. Cadwch lygad ar y wefan yma a dilynwch ni ar Twitter @GwylDewiAber ac ar Facebook am y diweddaraf. Gall digwyddiadau newid!
Mae’n amser dathlu ein Cymreictod a’n hiaith!
**
Parêd 2015 – Llwyddiant!
Ymunwch yn hwyl yr wyl! Dathlwn Gymru, y Gymraeg a’n Nawddsant!
Cynhaliwyd Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth 2015 ar ddydd Sadwrn 28 Chwefror. Fel y gwelwch o’r lluniau isod, roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn!
Dyma oedd trefn y dydd.
Gallwch argraffu copi o’r poster eich hun, yna cliciwch ar y ddolen yma: Poster Parêd 2015
Dilynwyd yr un Llwybr y Parêd â’r blynyddoedd blaenorol gan ddechrau am 1.00pm wrth Gloc y Dre, cerdded lawr Stryd Fawr, Stryd y Popty ac yna gorffen yn Sgwâr Llys y Brenin.
- The Parade about to start
- A full Llys-yBrenin Square!
- Gerald Morgan, the Tywysydd’s speech
- Linda Griffiths sings ‘Marwnad yr Ehedydd’
- The Mayor’s welcome
- Wyre and Alban, two of the Parêd’s youngest followers!
- ‘Gweiniaeth’ sing Sgwâr Glyndwr
***
Parêd 2014 – Cymerwch gip ar y ffrwd ffotos isod o Barêd 2014. Diolch i Amelia Davies am a Iestyn Hughes am y lluniau.