Amdanom ni

Cynhaliwyd y Parêd cyntaf yn 2013 a hynny er mwyn dathlu a dyrchafu’r iaith Gymraeg a diwrnod ein nawddsant. Yn dilyn canlyniadau siomedig Cyfrifiad 2011 teimlodd criw o bobl yn Aberystwyth bod angen hwb a digwyddiad i ddathlu ein bod ni ‘yma o hyd’.

Teimlwyd hefyd bod angen magu arferiad o greu gorymdeithio allblyg, lliwgar a cherddorol fyddai’n rhoi gwedd newydd i’r digwyddiadau Gwyl Dewi mwy traddodiadol.

Aelodau Pwyllgor Gwaith Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth yw:

Cadeirydd – Siôn Jobbins

Ysgrifennydd – Dana Edwards

Trysorydd – Dr Richard Edwards

Mae’r pwyllgor gwaith yn atebol i Gyngor y Parêd sy’n cynnwys aelodau unigol a hefyd cynrychiolwyr o sefydliadau a chymdeithasau Cymraeg ardal Aberystwyth.

Gobaith y trefnwyr yw y bydd rhagor o orymdeithiau Dewi Sant i’w gweld yng Nghymru. Yn 2014 cynhaliwyd Parêd Gwyl Dewi ym Mhwllheli a Chaernarfon. Yn 2015 cynhaliwyd un am y tro cyntaf ym Mangor a Bethesda. Ceir hefyd gorymdaith Gwyl Dewi ers ddegawd a mwy yng Nghaerdydd ac mae sawl un wedi bod yn Wrecsam.

Cysylltu: gallwch gysylltu â’r Parêd drwy post@gwyldewiaber.cymru 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s