Glan Davies – Tywysydd 2017

Cymwynaswr, digfrifwr a Chymro i’r carn yw Tywysydd Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth a gynhelir ar ddydd Sadwrn 4 Mawrth 2017. Mae Glan Davies yn adnabyddus i bobl y dre a Chymru thu hwnt am ei Gymreictod naturiol, cyson, ei ddigrifwch a’i waith dros elusennau Cymru.

Rhoddir braint ‘Tywysydd’ ym mhob gorymdaith Gwyl Dewi ers ei sefydlu yn 2013 a bydd y Tywysydd yn arwain y Parêd drwy dref Aberystwyth. Mae’n arwydd o ddiolch a gwerthfawrogiad cymuned Aberystwyth i berson neu bersonau lleol sydd wedi gwneud cyfraniad bwysig i iaith a diwylliant Cymru.

Glan Davies, Tywysydd Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth 2017

Glan Davies, Tywysydd Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth 2017

Er mawr syndod i sawl un fydd yn credu mai Cardi i’r carn yw Glan, magwyd ef ym Mrynaman Uchaf wrth droed y Mynydd Du. Yn fab i löwr, ysgrifennydd y Blaid Lafur a Chymro cadarn, gadawodd ysgol yn 15 oed gan mynd i weithio fel syrfeiwr ac yna yn 1970 symudodd i Aberystwyth i weithio i wahanol gwmnïau adeiladu gan ddod yn Brif Weithredwr ac yna sefydlodd gwmni teithiau. Roedd ei frawd, Eurig, yn blismon yng ngorsaf Goginan.

Mae wedi treulio ei oes yn diddanu pobl – yn gyntaf gyda chwmnïau dramâu y capel a’r Urdd ac yna fel arweinydd nosweithiau llawen a phinaclau pop y 60au a’r 70au. Bu’n actio mewn sawl cyfres ddrama gan gynnwys Pobol y Cwm. Mae wedi gweithio gyda Sian Phillips, Ronnie Barker, Ken Dodd, Little and Large, Mike Doyle a Max Boyce. Mae wedi cyflwyno rhaglenni teledu o gyfnod Hob y Deri Dando (a ddarlledwyd ddwywaith o Neuadd y Brenin lle cynhelir seremoni’r Parêd bellach) yn yr 1960au i gyfresi Noson Lawen. Cyhoeddodd 2 lyfr,Jôcs Glan’ a ‘Jôcs Cefn Gwlad’.

Mae wedi bod yn gymwynaswr erioed ac mae ei waith dros elusennau lleol a chenedlaethol yn chwedlonol. Bu’n codi arian er budd Plant Mewn Angen, elusennau iechyd, Clwb Rygbi Aberystwyth a Chlwb Pêl-droed Aberystwyth. Mae’n un o dri person sydd wedi hyfforddi dros 700 o bobl Ceredigion beth sydd i wneud i achub bywyd yn y Gymuned, os yw person wedi cael trawiad ar y galon a sut mae gwneud CPR a defnyddio diffbrilwyr, yn ogysdal â chyflwyno 70 o’r peiriannau achub bywyd yn Ceredigion.

Meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd y Parêd,

“Rydym yn hynod falch i Glan Davies dderbyn ein cais i fod yn Dywysydd eleni. Mae Cymru yn wlad ‘beirdd a chantorion’ ond hefyd yn wlad o ddiddanwyr naturiol a chymwynaswyr di-ofyn. Trwy gydol ei holl waith yn perfformio a chodi arian mae wastad wedi bod yn gadarn dros y Gymraeg. Bydd wastad yn defnyddio’r Gymraeg yn naturiol ac heb ymddiheuro a gan hynny dod ag urddas dawel a hwyl i’r iaith ac i’w waith. Mae’n esiampl i ni gyd o sut mae parchu a defnyddio’n iaith ac ar yr un pryd ei chyflwyno’n naturiol i bobl ddi-Gymraeg,” meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth.

Meddai Glan Davies: “Mae tri peth yn agos iawn i’n nghalon i rygbi, casglu jôcs a chodi arian i elusennau. Credaf bellach bod yn rhaid inni edrych ar ôl ein cymunedau Cymraeg, a hefyd yr iaith Gymraeg, a annog y di-Gymraeg i ddysgu’r y iaith. Ond fwy pwysig ein bod ni yn cael yr hyn syn ddyledus inni fel ardal wledig a glan y môr i beth sydd yn ar gael  yr ardaloedd dinesig.  Bellach rwy wedi ymuno a Calonnau Cymru elusen syn codi arian yng Cymru i wario ar drin problemau’r galon yng Nghymru.”

Trefn:

Cynhelir Parêd 2017 ar ddydd Sadwrn 4 Mawrth. Bydd yn dilyn yr un llwybr â’r blynyddoedd blaenorol – dechrau o Gloc y Dre ac yna ar hyd y Stryd Fawr, Stryd y Popty a gorffen yn Llys y Brenin. Bydd top y rhannau o Stryd y Baddon a Ffordd y Môr sy’n ffinio â Llys y Brenin ar gau i gerbydau am gyfnod y Seremoni.

Noddwyr:

Mae’r trefnwyr yn hynod ddiolchgar am nawdd – Cyngor Tref Aberystwyth; Cronfa Loteri Fawr, Cymru and eu nawdd hael ac i Cered sy’n trefnu diwrnod llawn o ddigwyddiadau a gweithdai am ddim yn y Bandstand newydd yn ystod y dydd.

 

Tywyswyr Blaenorol:

Mae Glan yn yn dilyn yn ôl traed yr artist Mary Lloyd-Jones (2016); yr awdur a’r cyn-brifathro Gerald Morgan (2015); sylfaenwyr busnes Siop y Pethe, Megan a Gwilym Tudur (2014) a’r cerddor, awdur a chynhyrchydd teledu, Dr Meredydd Evans (2013). Fel Tywysydd bydd Mary yn gwisgo sash hardd a wnaed yn unswydd i’r Parêd gan Caroline Goodband o’r Borth ac sy’n cynnwys enwau cyn dywyswyr. Yn dilyn y traddodiad o Wlad y Basg, caiff Glan hefyd rodd i’w gadw o ffon gerdded wedi ei gerfio gan Hywel Evans o Gapel Dewi.

 

Advertisements

Amserlen Llawn 2016

Ceir digwyddiadau yn arwain at ac ar ddiwrnod y Parêd. Ymunwch yn yr hwyl!

 

Lansiadau Llyfrau 

3/3/16 – Ceredigion: wrth fy Nhraed / At my Feet, Iestyn Hughes Llyfrgell Genedlaethol Cymru

4/4/16 – The Welsh Dragon: the Story of the Welsh Flag, Siôn Jobbins, Bar Wiff-Waff

 

4/3/16 – Gwener

Ed Holden, ‘Mr Phormula’ – Ysgol Penweddig ac Ysgol Penglais

5/3/16 – Sadwrn

Sgwâr Owain Glyndwr

10.30am – Gwilym Bowen Rhys

11.15am – Band Drwm Cambria Drum Band

11.45am – Raffdam

12.15pm – Dilwyn a Huw Banjo

12.30pm – Carwyn Fowler

Café MGs

10.30 – 12.30 – Carwyn Fower, Telynor/Harpist

Yr Hen Goleg – Am DDIM 

gweithdai a stondinau i blant a’r teulu 

10:00am – Gweithdy Ysgrifennu Caneuon – Mari Mathias (o Raffdam)

11:00am – Gweithdy Creu Masgiau – Meinir Mathias

12:00am – Gweithdy Bitboxio – Ed Holden

 

2:00 – Gweithdy Barddoniaeth – Aneurin Karadog

3:00 – Gweithdy Ukelele – Ian Ferguson

4:00 – Gweithdy Graffiti a Stensilio – Meinir Mathias

5:00 – Gweithdy Dawns – Coleg Ceredigion

Tafarn y Llew Du – AM DDIM 

3.00pm – Gwilym Bowen Rhys

4.00pm – Sesiwn Werin | Folk Session

Arwyddo Llyfrau yn Siopau Llyfrau 

Ceredigion: Wrth fy Nhraed / At my FeetAr Drywydd Dewi SantThe Red Dragon

 

6/3/16 – Sul

10.00am – Oedfa Dewi Sant yn y Morlan – croeso I bawb | Religious service

 

Amserlen y Parêd 

 1.00pm Cychwyn o Gloc Tref Aberystwyth hyd at Llys y Brenin.

Trefn y Seremoni yn Llys y Brenin

Croeso – Geraint Lloyd, Radio Cymru

Bendith – Y Parch. Lyn Lewis Dafis

Maer Aberystwyth – Endaf Edwards i ddatgan enillyd cystadleuaeth Ffenest Siop dan nawdd Cylch Cinio Aberystwyth.

Gerald Morgan yr awdur yn cyflwyno copi o’i lyfr Ar Drywydd Dewi Sant i’r Tywysydd 

Y Tywysydd – Mary Lloyd Jones

‘Moliannwn’ – Corau Aberystwyth Choirs

Raffdam

Llŵ y Parêd

Yr Anthem

 

Gosgordd y Tywysydd: Elliw Dafydd a Daniel Elwyn Thomas, Ysgol Penweddig

Ffon y Tywysydd: Hywel Evans, Capel Dewi

Stiwardio: Cylch Cinio Aberystwyth

**

Parêd 2016 – y fwyaf eto!

Cynhelir Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth am 1.00pm dydd Sadwrn 5 Mawrth 2016.

Dyma fydd y digwyddiad fwyaf hyd yma.

Gwilym Bowen Rhys fydd y pibydd fydd yn arwain yr orymdaith. Yr artist Mary Lloyd Jones fydd y Tywysydd a bydd aelodau corau Aberystwyth yn canu wrth gerdded i gyfeiliant Band Arian y dref. Bydd Band Drwm Cambria yn ail-ymddangos am y tro cyntaf ers 2013.

 

poster 2016 go iawn

Arweinydd y Seremoni fydd cyflwynydd BBC Radio Cymru, Geraint Lloyd, a Lyn Lewis Dafis fydd yn traddodi’r fendith. Ceir hefyd perfformiad arbennig gan Mr Phormula.

Yn ystod y bore bydd y telynor Carwyn Tywyn yn canu ar Sgwâr Owain Glyndwr ac yna yn Caffe MGs. Bydd hefyd llu o ddigwyddiadau i blant yn yr Hen Goleg drwy gydol y bore wedi eu trefu gan Cered, Menter Iaith Ceredigion.

Wedi’r Parêd bydd gig am ddim yn nhafarn y Llew Du ar Stryd y Bont gan Gwilym Bowen Rhys ac yna am 4.00pm bydd sesiwn werin yno hefyd – dewch draw i ymuno yn yr hwyr!

Ar fore Sul bydd oedfa arbennig yng Nghanolfan y Morlan.

Dim ond braslun yw hyn. Cadwch lygad ar y wefan yma a dilynwch ni ar Twitter @GwylDewiAber ac ar Facebook /ParedGwylDewiAberystwyth  am y diweddaraf. Gall digwyddiadau newid!

Mae’n amser dathlu ein Cymreictod a’n hiaith!

 

 

Mary Lloyd Jones – Tywysydd 2016

Artist yw Tywysydd Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth a gynhelir ar ddydd Sadwrn 5 Mawrth 2016. Mae Mary Lloyd Jones yn adnabyddus i bobl y dre a Chymru thu hwnt am ei gwaith celf ac am ei chariad a chefnogaeth i’r Gymraeg a chelfyddid Gymreig.

Mary Lloyd Jones gyda'i gwaith celf [ffoto gan Elin Jones AC]

Mary Lloyd Jones gyda’i gwaith celf [ffoto gan Elin Jones AC]

Rhoddir braint ‘Tywysydd’ ym mhob gorymdaith Gwyl Dewi ers ei sefydlu yn 2013 a bydd y Tywysydd yn arwain y Parêd drwy dref Aberystwyth. Mae’n arwydd o ddiolch a gwerthfawrogiad cymuned Aberystwyth i berson neu bersonau lleol sydd wedi gwneud cyfraniad bwysig i iaith a diwylliant Cymru.

Ganed Mary ym Mhontarfynach, hyfforddwyd hi yng Ngholeg Celf Caerdydd ac mae wedi arddangos yn gyson ers 1966 ac yn artist llawn amser ers 1989. Mae ei gwaith mewn sawl casgliad cyhoeddus gan gynnwys Ty’r Arglwyddi, The Smithsonian Collection yn Washington DC, BBC Cymru Wales, Amgueddfa Cymru, Amgueddfa ac Oriel Crawford, Cord yr Iwerddon, y World Trade Centre a Chasgliad y Victoria and Albert yn Llundain.

Mary Lloyd Jones, Tywysydd 2016

Mary Lloyd Jones, Tywysydd 2016

“Mae cryfder ac amrywiaeth y Gymraeg a’i diwylliant yn Aberystwyth oherwydd pobl fel Mary Lloyd Jones,” meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd Parêd Gŵyl Dewi. “Mae gwaith Mary yn dangos amrywiaeth mawr ond dydy heb fod ofn ceisio ymwneud â Chymru yn ei chelfyddid gan ei teimlo bod ganddi gyfrifoldeb amddiffyn ac hyrwyddo yr iaith a’r diwylliant a chreodd hi. Bydd llawer yn cofio ei darlun enwog yn cefnogi pleidlais ‘ie’ yn Refferendwm Datganoli 1997,” meddai Siôn.

Meddai Mary Lloyd Jones: “Yn Aberystwyth y sefydlwyd Prifysgol Cymru yn 1872 ac yma y cynhaliwyd protest enwog Pont Trefechan dros yr iaith Gymraeg yn 1963. Mae’r iaith Gymraeg yn gryfach oherwydd Aberystwyth ac mae’n parhau i fod yn ganolfan ddiwylliannol ac ieithyddol. Y prosiect mwyaf cyffrous yw rhoi bywyd newydd i’r Hen Goleg gall fod yn hwb creadigol a diwylliannol i Aberystwyth a Chymru gan greu cysylltiadau rhyngwladol rhwng Cymru, y Gymraeg a gweddill y byd.”

Cynhelir Parêd 2016 ar ddydd Sadwrn 5 Mawrth. Bydd yn dilyn yr un llwybr â’r blynyddoedd blaenorol – dechrau o Gloc y Dre ac yna ar hyd y Stryd Fawr, Stryd y Popty a gorffen yn Llys y Brenin. Bydd top y rhannau o Stryd y Baddon a Ffordd y Môr sy’n ffinio â Llys y Brenin ar gau i gerbydau am gyfnod y Seremoni.

Noddwyr:

Mae’r trefnwyr yn hynod ddiolchgar am nawdd – Cyngor Tref Aberystwyth; Cronfa Loteri Fawr, Cymru; Cambrian News, Cered, Cronfa Cofeb Rhyfel Aberystwyth, Cylch Cinio Aberystwyth. They are also grateful to the support of individuals and other clubs and societies in Aberystwyth who have made it possible to hold this vibrant and uplifting event again this year.

Tywyswyr Blaenorol:

Mae Mary yn dilyn yn ôl traed yr awdur a’r cyn-brifathro Gerald Morgan (2015); sylfaenwyr busnes Siop y Pethe, Megan a Gwilym Tudur (2014) a’r cerddor, awdur a chynhyrchydd teledu, Dr Meredydd Evans (2013). Fel Tywysydd bydd Mary yn gwisgo sash hardd a grewyd yn unswydd i’r Parêd gan Caroline Goodband o’r Borth ac sy’n cynnwys enwau cyn dywyswyr. Yn dilyn y traddodiad o Wlad y Basg, caiff Gerald hefyd rodd i’w gadw o ffon gerdded wedi ei gerfio gan Hywel Evans o Gapel Dewi.

Mary Lloyd Jones o flaen llun

Mary o flaen arddangosfa o’i lluniau. [diolch i Elin Jones AC am y ffoto]

Cwpan i’r Parêd?

Tybed a oes gan rywun gwpan neu darian, efallai a enillwyd mewn hen Eisteddfod neu Sioe yr hoffent ei roi i drefnwyr Pared Gŵyl Dewi Aberystwyth?

Mae tîm sy’n trefnu’r Parêd yn awyddus i sicrhau gwobr deilwng ar gyfer cystadleuaeth newydd lle gofynnir i siopau’r dre addurno eu ffenestri i ddathlu Gŵyl ein nawddsant.  Bydd yr enillydd wedyn yn cadw’r cwpan neu darian am flwyddyn.  Byddai’r pwyllgor wrth gwrs hefyd yn croesawu cwpan neu darian newydd i’w ddefnyddio i’r perwyl hwn.

Os oes rhywun am helpu’r Parêd yn y modd yma gofynnir iddynt gysylltu gyda’r Cadeirydd, Siôn Jobbins ar 07815857821 neu sion.jobbins@gmail.com

Rhagrybudd: dyddiad Pared 2016 yw Sadwrn 5 Mawrth.

 

 

Grant at Parêd 2016 – Diolch i Gyngor Tref Aberystwyth

Hoffai trefnwyr Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth ddiolch yn fawr iawn i Gyngor Tref Aberystwyth am eu grant hael tuag at cynnal y digwyddiad yn 2016. Mae Cyngor y Dref wedi bod yn gefnogol i’r Parêd ers yr orymdaith gyntaf yn 2013. Derbyniwyd siec o £900.

Derbyn siec gan Faer Aberystwyth, y Cyngh. Endaf Edwards

Derbyn siec gan Faer Aberystwyth, y Cyngh. Endaf Edwards

“Mewn cyfnod o wasgfa ariannol mae derbyn buddsoddiad hael fel hyn gan Gyngor Tref Aberystwyth yn gymorth anferthol i’r Parêd. Dyma’r swm fwyaf i ni dderbyn hyn yma ac ydym yn derbyn ac yn deall na fyddwn o reidrwydd yn derbyn yr un faint yn olynnol. Serch hynny, mae’n gam bwysig tuag at ymestyn y Parêd a’i wneud yn wyl fydd yn rhoi Aberystwyth ar y map, a denu pobl fewn i’r dref ar gyfer y digwyddiad. Rydym yn sicr caiff llawer mwy na’r swm yma ei fuddsoddi nôl ym musnesau tref Aberystwyth wrth i orymdeithwyr a gwylwyr fwynhau’r diwrnod. Ac mae’r buddsoddiad mewn diwylliant Gymraeg yn bwysicach fyth,” meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd Parêd Gwyl Dewi Aberytwyth.

Trefn Parêd 2015

Cynhelir Parêd Gwyl Dewi 2015 ar ddydd Sadwrn 28 Chwefror gan ddilyn yr un llwybr â’r blynyddoedd blaenorol. Yn ogystal â’r orymdaith ei hun, mae sawl digwyddiad arall. Dewch i Aberystwyth a gwnewch ddiwrnod ohoni!

9.00 – 11.00 Sesiwn Lliwio Baneri i Blant. Canolfan y Morlan. £1 y plentyn. Dim ond lle i 40. Rhaid cofrestru o flaen llaw. Cysylltwch â Dana Edwards ar dana-edwards[malwen]dsl.pipex.com Twitter: http://www.twitter.com/CanolfanMorlan

10.00 Sesiwn Blasu Bwydydd Cymreig. Y Siop Leol, Heol y Wig. Twitter: http://www.twitter.com/ysiopleol

11.00 – 12.45 Cinio Cawl yn y Morlan. Bwyd da i gynhesu’r enaid a’r galon!

11.00 Set fyw acwstig gan Y Gweriniaeth – band ifanc o Aberystwyth. Sgwâr Owain Glyndwr, Aberystwyth

1.00 Y Parêd. Cychwyn o Gloc y Dre ac am Sgwâr Llys y Brenin. Yn rhan o’r orymdaith eleni fydd:

‘Y Tywysydd’ – Gerald Morgan, prifathro cyntaf Ysgol Penweddig, awdur a chymanaswr fydd yn arwain y Parêd eleni.

Côr Meibion Aberystwyth

Band Arian Aberystwyth

Band Gwerin Clatshobant

Seremoni ar Sgwâr Llys y Brenin gyda’r fendith gan y Parch. Andrew Lenny. Bydd munud o dawelwch i gofio’r diweddar Dr Meredydd Evans, Tywysydd y Parêd gyntaf yn 2013. Byddwn hefyd yn cofio gwladgarwyr eraill â chysylltiad cryf ag Aberystwyth – John ‘Bwlchlan’ Davies, John Rowlands a Mari Elis. Bydd Linda Griffiths yn canu Marwnad yr Ehedydd. Yn ôl yr hanes ‘ehedydd’ oedd yr enw cudd ar Owain Glyndwr yn ystod ei ryfel dros ryddid i Gymru.

3.00 – 4.00 Gig am ddim yn nhafarn y Llew Du, Stryd y Bont, Aberystwyth gyda Clatshobant. Twitter: http://www.twitter.com/llewduboi

8.00 – Sesiwn ganu a cherddoriaeth Gymraeg, tafarn y Cŵps. Dewch ag offeryn a dewch â’ch llais!

DYDD SUL

10.00 Capel y Morfa, gwasanaeth Gwyl Dewi arbennig, croeso i bawb

Diolch Cylch Cinio Aber

Roedd yn bleser mawr gan Dr Richard Edwards a Dana Edwards (Trysorydd ac Ysgrifennydd) Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth, dderbyn siec hael o £100 gan Gylch Cinio Dynion Aberystwyth.

Gwynfor Williams, o'r Cylch Cinio, Dana a Dr Richard Edwards

Gwynfor Williams, o’r Cylch Cinio, Dana a Dr Richard Edwards o’r Parêd

Cyflwynwyd y siec gan Gwynfor Williams wedi cinio yng Ngwesty’r Richmond yn Aberystwyth. Bu aelodau’r Cylch yn gymorth mawr yn Parêd 2014 wrth i ddwsin ohonynt roi o’i hamser i stiwardio’r orymdaith a sicrhau iddi fod yn ddigwyddiad saff a llwyddiannus.

Meddai Gwynfor, “Mae’r Cylch Cinio yn sefydliad Gymraeg ei hiaith i ddynion ardal Aberystwyth. Byddwn yn cwrdd oddeutu unwaith y mis ac yn trefnu siaradwyr gwadd. Roedd yr aelodau’n teimlo ei bod yn bwysig i ni gefnogi menter sy’n dathlu a defnyddio’r Gymraeg yn Aberystwyth.”

Diolchodd Dr Richard Edwards am y rhodd hael,

“Mae Parêd Gwyl Dewi yn ddibynol ar gefnogaeth ac haelioni sefydliadau a busnesau Aberystwyth. Rydym yn ceisio cryfhau’r Gymraeg a thynnu pobl at ei gilydd – mae derbyn siec hael fel hon gan Gylch Cinio Aberystwyth yn arwydd o’r gryfder y gymuned Gymraeg yn y dref ac o gefnogaeth pobl ardal Aberystwyth i’r Parêd a dathlu’r Gymraeg.”

Gerald Morgan fydd Tywysydd Parêd 2015

Awdur, cyn brifathro, darlithydd ac arweinydd achlysurol teithiau tywys – ie, dyn prysur yw Gerald Morgan! Does dim syndod felly ei fod wedi ei ddewis fel Tywysydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth 2015.

Rhoddir braint ‘Tywysydd’ ym mhob gorymdaith Gwyl Dewi ers ei sefydlu yn 2013. Mae’n arwydd o ddiolch a gwerthfawrogiad cymuned Aberystwyth i berson neu bersonau lleol sydd wedi gwneud cyfraniad bwysig i iaith a diwylliant Cymru.

Gerald Morgan

Gerald Morgan

Bydd Gerald yn dilyn yn ôl traed Megan a Gwilym Tudur (sylfaenwyr Siop y Petha) a’r Dr Meredydd Evans. Fel Tywysydd bydd Gerald yn gwisgo sash hardd a grewyd yn unswydd i’r Parêd gan Caroline Goodband o’r Borth ac sy’n cynnwys enwau cyn dywyswyr. Yn dilyn y traddodiad o Wlad y Basg, caiff Gerald hefyd rodd i’w gadw o ffon gerdded wedi ei gerfio gan Hywel Evans o Gapel Dewi.

Ganed Gerald Morgan yn Brighton yn 1935 i rieni o Gymry. Graddiodd mewn Saesneg o Gaergrawnt ac mewn Astudiaethau Celtaidd o Rydychen gan symud i fyw i Gymru yn 1962. Wedi sawl blwyddyn yng nghwm Ystwyth symudodd ef a’i wraig, y Parch. Canon Enid Morgan, i fyw yn Aberystwyth; mae ganddynt dri mab a chwech wyr. Wedi bod yn athro Saesneg yn yr Wyddgrug ac Aberteifi daeth Gerald yn brifathro ar Ysgol Uwchradd Llangefni cyn cael ei benodi’n brifathro cyntaf Ysgol Gyfun Gymraeg Penweddig yn 1973.

Awdur Toreithiog! 

Mae Gerald wedi bod yn awdur toreithiog yn y ddwy iaith ers bron i hanner canrif. Ymysg ei lyfrau mae: Yr Afal Aur (1965), The Dragon’s Tongue: The Fortunes of the Welsh Language (1966), This World of Wales (editor; 1968), Crist yn y Gwlag (1986), Castles in Wales: A Guidebook (2008), A Brief History of Wales (2008), Looking for Wales (2013) a Dinefwr: a Phoenix in the Welsh Landscape (2014).

Mae hefyd wedi ysgrifennu’n fynych ar Geredigion: Cyfoeth y Cardi (1995), Helyntion Y Cardi – Ysgrifau Ar Hanes Ceredigion (1997), A Welsh House and its Family: the Vaughans of Trawscoed (1997), Nanteos: A Welsh House and its Families (editor; 2001), Ceredigion: A Wealth of History (2005), Llwybr Arfordir Ceredigion – O’r Teifi i’r Dyfi / Ceredigion Coast Path – From the Teifi to the Dyfi (2008).

O “ddim” i siarad yn Rhugl

Mae Gerald wedi bod yn bont rhwng siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ers degawdau. Er ei fod o deulu Cymreig doedd ganddo dim Cymraeg a bu’n rhaid iddo ddechrau “o ddim” cyn dod yn rhugl yn yr iaith. Mae hyn, a’i ddealltwriaeth dwfn o Gymru ac o’i deulu estynedig Gymreig, wedi rhoi iddo ddealltwriaeth dda wrth gynorthwyo pobl o bob cefndir i ddysgu Cymraeg.

“Mae cryfder ac amrywiaeth y Gymraeg yn Aberystwyth oherwydd pobl fel Gerald Morgan,” meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd Parêd Gŵyl Dewi. “Gellid yn hawdd fod wedi ‘colli’ Gerald i Gymru ond gwyddai ers yn blentyn mai Cymro ydoedd ac yn ddyn ifanc penderfynodd fod gan Gymru a’r Gymraeg lawer i’w gynnig iddo. Gwn fod ganddo yntau lawer iawn i’w gyfrannu i Gymru a’i hiaith hefyd!”

Sefydlu Ysgol Penweddig – Curo Ofn a Phryderon di-sail am Addysg Gymraeg

“Daeth ewyllys a chryfder cymeriad Gerald i’r amlwg adeg sefydlu Ysgol Uwchradd Gymraeg Penweddig yn Aberystwyth. Roedd llawer o wrthwynebiad a phryderon di-sail ar y pryd yn erbyn addysg uwchradd Gymraeg gyda rhai’n dweud y byddai’n effeithio’n wael ar addysg y plant. Roedd Gerald yn un o’r arloeswyr yng Ngheredigion a dangosodd bod modd dysgu pob pwnc yn y Gymraeg i blant o bob cefndir a gallu – beth bynnag oedd eu hiaith ar yr aelwyd. Rydym yn falch iawn bod Gerald wedi cytuno i fod yn Dywysydd ar y Parêd yn 2015,” ategodd Siôn.

Meddai Gerald Morgan: “Cefais fy syfrdanu a’m cyffroi o gael cynnig yr anrhydedd hon. Mae’n fraint cael dilyn yn ôl traed Merêd a Gwilym a Megan sydd wedi gwneud cymaint dros Gymru a’n hiaith.”

Cynhelir Parêd 2015 ar ddydd Sadwrn 28 Chwefror. Bydd yn dilyn yr un llwybr â’r blynyddoedd blaenorol – dechrau o Gloc y Dre ac yna ar hyd y Stryd Fawr, Stryd y Popty a gorffen yn Llys y Brenin. Bydd y Parêd yn ddigwyddiad cerddorol a lliwgar a gwahoddir unigolion a grwpiau lleol i ymuno yn yr orymdaith a dangos eu cefnogaeth i’r Gymraeg, Dewi Sant a diwylliant Cymru.