Ned Thomas – Tywysydd 2018

Ned Thomas – Tywysydd 2018

Awdur a newyddiadurwr, academydd a chyhoeddwr yw Tywysydd Parêd Gwyl Dewi

Aberystwyth a gynhelir ar ddydd Sadwrn 3 Mawrth 2018. Mae Ned Thomas yn adnabyddus i bobl y dre a Chymru thu hwnt am ei ymdrechion dros yr iaith Gymraeg ac hyrwyddo y Cymry i  ddysgu gan wledydd tramor a phobl tramor ddysgu am Gymru.

Ned Thomas. 2005.

Ned Thomas, Tywysydd Parêd 2018

Rhoddir braint ‘Tywysydd’ ym mhob gorymdaith Gwyl Dewi ers ei sefydlu yn 2013 a bydd y Tywysydd yn arwain y Parêd drwy dref Aberystwyth. Mae’n arwydd o ddiolch agwerthfawrogiad cymuned Aberystwyth i berson neu bersonau lleol sydd wedi gwneudcyfraniad bwysig i iaith a diwylliant Cymru.

Ganed Ned yn Lloegr i rieni Cymraeg ac fe addysgwyd yng Nghymru, Lloegr a’r Almaen lle roedd ei dad yn farnwr yn y llysoedd dedfrydu Natsïaid wedi’r Ail Ryfel Byd. Nes ymlaen bu’n Athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Salamanca yn Sbaen yn nghyfnod Franco ac yn Athro cyfnewid ym Mhrifysgol Mosco yn y cyfnod Sofietaidd. Dychwelodd i Gymru i ddarlithio yn Adran Saesneg Prifysgol Aberystwyth. Pryd hynny sefydlodd y cylchgrawn Planet a’i olygu am bymtheg mlynedd,a nes ymlaen bu’n Gyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd.

Yn Sbaen yr oedd eisoes wedi dod i nabod rhai o arweinwyr y mudiadau cenedlaethol a’r mudiadau iaith yng Ngwlad y Basg a Catalwnia. Bu’n weithgar ym maes lleiafrifoedd ieithyddol Ewrop am chwarter canrif a fe sefydlodd Canolfan Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth y mae’n dal yn Lywydd arni. Mae’r ganolfan wedi magu perthynas agos â siaradwyr ieithoedd eraill Ewrop sydd, fel y Gymraeg, yn ymladd am hawliau. Cyhoeddodd astudiaethau o waith George Orwell a Derek Walcott yn Saesneg, ac o Waldo Williams yn Gymraeg. Roedd ei gyfrol ‘The Welsh Extremist: a Culture in Crisis’ yn ddylanwadol yng nghyfnod ymgyrchoedd dros yr iaith Gymraeg yn saithdegau ac wythdegau’r ganrif ddiwethaf a’i gyfrol ‘Bydoedd – Cofiant Cyfnod’ oedd Llyfr y Flwyddyn yn Gymraeg yn 2011.

Mae wrthi’n paratoi cyfrol am y syniad o leiafrif ieithyddol yn hanes diweddar Ewrop.

Meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd y Parêd,

“Rydym yn hynod falch i Ned Thomas dderbyn ein cais i fod yn Dywysydd eleni. Mae Nedwedi bod yn ddylanwad fawr wrth agor ffenest Cymru i genhedloedd tebyg i ni fel yCatalwnwyr a’r Basgwyr sy’n gorfod ymladd am ei hawliau ieithyddol ac hawliaucenedlaethol. Mae hefyd wedi esbonio a denu llawer o bobl ddylanwadol yma i Gymru. Mae wedi arwain trwy esiampl wrth greu Cymreictod ryngwladol sy’n barod i ddysgu gwersi da gan genhedloedd eraill. Bu’n gyfrifol drwy Mercator am ddod â nifer o bobl tramor i Aberystwyth lle ddysgodd llawer ohonynt Gymraeg a, gan hynny, cryfhau y diwylliant Gymraeg yn y dre a chadarnhau Aber fel tref dysg ryngwladol a Chymreig,”

Meddai Ned Thomas:

“Braint a phleser fydd cael arwain y parêd, a hynny mewn cyfnod panmae gan Aberystwyth a’r cylch cymaint i fod yn falch ohono. Yr hyn sydd gen i dan sylw yw ei chroeso arbennig ar adeg gythryblus i ffoaduriaid ac yn wir i bawb o bell sydd wedi ymgartrefu yma ac yn cyfrannu i’n cymdeithas. Ydy, mae diwylliant a chymeriad bro a chenedl yn etifeddiaeth werthfawr ond mae’n hetifeddiaeth a adnewyddir bob dydd gan ein gweithredoedd yn y presennol. Gaf fi annog chi i wahodd eich cyfeillion a’ch cydnabod, o ba bynnag cefndir ieithyddol a diwylliannol, i ymuno â’r orymdaith a’r gweithgareddau ar Fawrth 3ydd, fel ein bod ni’n symud ymlaen fel cenedl gyda’n gilydd.”

Ceridwen Lloyd Morgan a Ned Thomas

Ned a Ceridwen Lloyd-Morgan

Trefn:

Cynhelir Parêd 2018 ar ddydd Sadwrn 3 Mawrth. Bydd yn dilyn yr un llwybr â’r blynyddoedd blaenorol – dechrau o Gloc y Dre ac yna ar hyd y Stryd Fawr, Stryd y Popty a gorffen yn Llys y Brenin. Bydd top y rhannau o Stryd y Baddon a Ffordd y Môr sy’n ffinio â Llys y Brenin ar gau i gerbydau am gyfnod y Seremoni.

Noddwyr:

Mae’r trefnwyr yn hynod ddiolchgar am nawdd – Cyngor Tref Aberystwyth am eu nawdd hael a Chlwb Cinio Aberystwyth ac i Cered sy’n trefnu diwrnod llawn o ddigwyddiadau a gweithdai am ddim yn y Bandstand newydd yn ystod y dydd.

Tywyswyr Blaenorol:

Mae Ned yn dilyn yn ôl traed y diddanwr a’r codwr arian Glan Davies (2017); yr artist Mary Lloyd-Jones (2016); yr awdur a’r cyn-brifathro Gerald Morgan (2015); sylfaenwyr busnes Siop y Pethe, Megan a Gwilym Tudur (2014) a’r cerddor, awdur a chynhyrchydd teledu, Dr Meredydd Evans (2013). Fel Tywysydd bydd Ned yn gwisgo sash hardd a wnaed yn unswydd i’r Parêd gan Caroline Goodband o’r Borth ac sy’n cynnwys enwau cyn dywyswyr. Yn dilyn y traddodiad o Wlad y Basg, caiff Ned hefyd rodd o ffon gerdded wedi ei gerfio gan Hywel Evans of Gapel Dewi.

***

Glan Davies – Tywysydd 2017

Cymwynaswr, digfrifwr a Chymro i’r carn yw Tywysydd Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth a gynhelir ar ddydd Sadwrn 4 Mawrth 2017. Mae Glan Davies yn adnabyddus i bobl y dre a Chymru thu hwnt am ei Gymreictod naturiol, cyson, ei ddigrifwch a’i waith dros elusennau Cymru.

Rhoddir braint ‘Tywysydd’ ym mhob gorymdaith Gwyl Dewi ers ei sefydlu yn 2013 a bydd y Tywysydd yn arwain y Parêd drwy dref Aberystwyth. Mae’n arwydd o ddiolch a gwerthfawrogiad cymuned Aberystwyth i berson neu bersonau lleol sydd wedi gwneud cyfraniad bwysig i iaith a diwylliant Cymru.

Glan Davies, Tywysydd Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth 2017

Glan Davies, Tywysydd Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth 2017

Er mawr syndod i sawl un fydd yn credu mai Cardi i’r carn yw Glan, magwyd ef ym Mrynaman Uchaf wrth droed y Mynydd Du. Yn fab i löwr, ysgrifennydd y Blaid Lafur a Chymro cadarn, gadawodd ysgol yn 15 oed gan mynd i weithio fel syrfeiwr ac yna yn 1970 symudodd i Aberystwyth i weithio i wahanol gwmnïau adeiladu gan ddod yn Brif Weithredwr ac yna sefydlodd gwmni teithiau. Roedd ei frawd, Eurig, yn blismon yng ngorsaf Goginan.

Mae wedi treulio ei oes yn diddanu pobl – yn gyntaf gyda chwmnïau dramâu y capel a’r Urdd ac yna fel arweinydd nosweithiau llawen a phinaclau pop y 60au a’r 70au. Bu’n actio mewn sawl cyfres ddrama gan gynnwys Pobol y Cwm. Mae wedi gweithio gyda Sian Phillips, Ronnie Barker, Ken Dodd, Little and Large, Mike Doyle a Max Boyce. Mae wedi cyflwyno rhaglenni teledu o gyfnod Hob y Deri Dando (a ddarlledwyd ddwywaith o Neuadd y Brenin lle cynhelir seremoni’r Parêd bellach) yn yr 1960au i gyfresi Noson Lawen. Cyhoeddodd 2 lyfr,Jôcs Glan’ a ‘Jôcs Cefn Gwlad’.

Mae wedi bod yn gymwynaswr erioed ac mae ei waith dros elusennau lleol a chenedlaethol yn chwedlonol. Bu’n codi arian er budd Plant Mewn Angen, elusennau iechyd, Clwb Rygbi Aberystwyth a Chlwb Pêl-droed Aberystwyth. Mae’n un o dri person sydd wedi hyfforddi dros 700 o bobl Ceredigion beth sydd i wneud i achub bywyd yn y Gymuned, os yw person wedi cael trawiad ar y galon a sut mae gwneud CPR a defnyddio diffbrilwyr, yn ogysdal â chyflwyno 70 o’r peiriannau achub bywyd yn Ceredigion.

Meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd y Parêd,

“Rydym yn hynod falch i Glan Davies dderbyn ein cais i fod yn Dywysydd eleni. Mae Cymru yn wlad ‘beirdd a chantorion’ ond hefyd yn wlad o ddiddanwyr naturiol a chymwynaswyr di-ofyn. Trwy gydol ei holl waith yn perfformio a chodi arian mae wastad wedi bod yn gadarn dros y Gymraeg. Bydd wastad yn defnyddio’r Gymraeg yn naturiol ac heb ymddiheuro a gan hynny dod ag urddas dawel a hwyl i’r iaith ac i’w waith. Mae’n esiampl i ni gyd o sut mae parchu a defnyddio’n iaith ac ar yr un pryd ei chyflwyno’n naturiol i bobl ddi-Gymraeg,” meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth.

Meddai Glan Davies: “Mae tri peth yn agos iawn i’n nghalon i rygbi, casglu jôcs a chodi arian i elusennau. Credaf bellach bod yn rhaid inni edrych ar ôl ein cymunedau Cymraeg, a hefyd yr iaith Gymraeg, a annog y di-Gymraeg i ddysgu’r y iaith. Ond fwy pwysig ein bod ni yn cael yr hyn syn ddyledus inni fel ardal wledig a glan y môr i beth sydd yn ar gael  yr ardaloedd dinesig.  Bellach rwy wedi ymuno a Calonnau Cymru elusen syn codi arian yng Cymru i wario ar drin problemau’r galon yng Nghymru.”

Trefn:

Cynhelir Parêd 2017 ar ddydd Sadwrn 4 Mawrth. Bydd yn dilyn yr un llwybr â’r blynyddoedd blaenorol – dechrau o Gloc y Dre ac yna ar hyd y Stryd Fawr, Stryd y Popty a gorffen yn Llys y Brenin. Bydd top y rhannau o Stryd y Baddon a Ffordd y Môr sy’n ffinio â Llys y Brenin ar gau i gerbydau am gyfnod y Seremoni.

Noddwyr:

Mae’r trefnwyr yn hynod ddiolchgar am nawdd – Cyngor Tref Aberystwyth; Cronfa Loteri Fawr, Cymru and eu nawdd hael ac i Cered sy’n trefnu diwrnod llawn o ddigwyddiadau a gweithdai am ddim yn y Bandstand newydd yn ystod y dydd.

 

Tywyswyr Blaenorol:

Mae Glan yn yn dilyn yn ôl traed yr artist Mary Lloyd-Jones (2016); yr awdur a’r cyn-brifathro Gerald Morgan (2015); sylfaenwyr busnes Siop y Pethe, Megan a Gwilym Tudur (2014) a’r cerddor, awdur a chynhyrchydd teledu, Dr Meredydd Evans (2013). Fel Tywysydd bydd Mary yn gwisgo sash hardd a wnaed yn unswydd i’r Parêd gan Caroline Goodband o’r Borth ac sy’n cynnwys enwau cyn dywyswyr. Yn dilyn y traddodiad o Wlad y Basg, caiff Glan hefyd rodd i’w gadw o ffon gerdded wedi ei gerfio gan Hywel Evans o Gapel Dewi.

 

Advertisements